Dyfed-Powys Police Career Familiarisation Programme / Rhaglen Ymgyfarwyddo â Gyrfa Heddlu Dyfed-Powys

Dyfed-Powys Police are offering an exciting opportunity for students to attend a ‘Career Familiarisation Programme’.

Dyfed-Powys Police are one of only a very few forces across the country offering such an opportunity. Similar to work experience the Career Familiarisation Programme will offer students the unique opportunity to see what goes on behind the scenes of a modern-day Police Service. Dyfed-Powys Police is one of the largest forces geographically in England and Wales and encompasses a huge range of careers that many will be unaware of.

There are a whole range of departments within the Dyfed-Powys Police organisation which deal with everything from computer crime to forensic examinations. Hopefully, this programme will open the eyes of the students to the possibilities within the organisation and identify that there is much more to the Police service than a response Police Officer, as many of these roles are held by non-warranted Police Staff. The programme will also give pupils an excellent experience to evidence on any university /college applications.

The programme will be aimed at Year 10–Year 12 students initially who are obviously at an important stage in their education where they need to decide what career path to take. The prospective students will engage in 2–3 day programme with Dyfed Powys Police in June/July (dates will be confirmed). During this time, they will visit and experience a number of different departments and gain a first-hand experience of what each department does, and how they contribute to the organisation. The programme will be office based (students will not be allowed out on response/patrol) and will take place from 9am to 3pm on weekdays. It will be the responsibility of the individual/student to arrange transport to and from either:

  • Police Headquarters, Llangunnor, Carmarthen

  • Newtown Police Station

  • Brecon Police Station

  • Aberystwyth Police Station

Depending on where the student lives and where they would like to attend the event, is where they will spend each day. The schedule will be organised in such a way that should the student need to move from department to department, this will take place within the same station and as such, transport will not be required during the day.

Any interested student will be asked to complete a short application form. Once the applications have been completed, please can you ensure they are returned by the 5th May 2023.

Approved candidates will be asked to sign an Official Secrets Act document as well as an applicant declaration. A parental consent form will also be required prior to any consideration being given for a place on the programme.

If you require any assistance in the meantime, please do not hesitate to contact your School Community Police Officer who should be able to assist you.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynnig cyfle cyffrous i fyfyrwyr fynychu ‘Rhaglen Ymgyfarwyddo â Gyrfa’.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn un o ychydig iawn o heddluoedd ar draws y sir sy’n cynnig y fath gyfle. Yn yr un modd â phrofiad gwaith, bydd y Rhaglen Ymgyfarwyddo â Gyrfa’n cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr weld beth sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni mewn Gwasanaeth Heddlu modern. Mae Heddlu Dyfed-Powys yn un o’r heddluoedd mwyaf yn ddaearyddol yng Nghymru a Lloegr ac y mae’n cwmpasu amrywiaeth enfawr o yrfaoedd, ac efallai na fydd llawer o bobl yn ymwybodol o hynny.

Mae ystod lawn o adrannau o fewn sefydliad Heddlu Dyfed-Powys, yn ymdrin â phob peth o droseddau cyfrifiadurol i archwiliadau fforensig. Gyda gobaith, bydd y rhaglen hon yn agor llygaid y myfyrwyr i’r posibiliadau o fewn y sefydliad ac yn dangos bod llawer mwy i wasanaeth yr heddlu na Swyddog Heddlu ymatebol, a hynny gan fod llawer o’r rolau hyn yn cael eu cyflawni gan Staff Heddlu heb warant. Bydd y rhaglen hefyd yn rhoi profiad ardderchog i fyfyrwyr ei nodi fel tystiolaeth ar unrhyw gais i brifysgol neu goleg.

Anelir y rhaglen yn gychwynnol at fyfyrwyr Blwyddyn 10–Blwyddyn 12 sy’n amlwg ar gam pwysig o ran eu haddysg lle mae angen iddynt benderfynu pa lwybr gyrfa i’w ddilyn. Bydd y darpar fyfyrwyr yn ymgymryd â rhaglen 2–3 diwrnod gyda Heddlu Dyfed-Powys yn mis Mehefin/Gorffennaf (dyddiadau i'w cadarnhau). Yn ystod yr amser hwn byddant yn ymweld â nifer o adrannau gwahanol ac yn cael profiad ymarferol o’r hyn y mae pob adran yn ei wneud a’r modd y maent yn cyfrannu i’r sefydliad. Bydd y rhaglen wedi ei seilio yn y swyddfa (ni fydd myfyrwyr yn cael mynd allan ar batrôl/ymateb) ac fe’i cynhelir rhwng 9yb a 3yh yn ystod yr wythnos, nid ar benwythnosau. Cyfrifoldeb yr unigolyn/myfyriwr fydd trefnu cludiant at:

  • Pencadlys yr heddlu, Llangynnwr, Caerfyrddin

  • Gorsaf Heddlu Dre Newydd

  • Gorsaf Heddlu Aberhonddu

  • Gorsaf Heddlu Aberystwyth  

Gan ddibynnu ar ble y mae’r myfyriwr yn byw ac ble bydd yr unigolyn/myfyriwr eisiau mynd. Yn y fan honno y byddant yn treulio bob diwrnod. Bydd yr amserlen yn cael ei drefnu mewn modd a fydd yn sicrhau os bydd angen i’r myfyriwr symud o adran i adran y bydd hynny’n digwydd o fewn yr un orsaf, ac felly ni fydd angen cludiant yn ystod y dydd.

Gofynnir i unrhyw fyfyriwr sydd â diddordeb gwblhau ffurflen gais fer. Unwaith y bydd y ceisiadau wedi eu cwblhau a allwch chi sicrhau eu bod yn cael eu dychwelyd erbyn 5 Mai 2023.

Gofynnir i ymgeiswyr a gymeradwyir lofnodi dogfen Deddf Cyfrinachau Swyddogol yn ogystal â datganiad ymgeisydd. Bydd hefyd angen ffurflen caniatâd rhieni cyn y rhoddir unrhyw ystyriaeth i gais am le ar y rhaglen.

Bydd cynrychiolydd o Heddlu Dyfed-Powys mewn cysylltiad yn fuan gyda mwy o wybodaeth. Os bydd angen unrhyw gymorth arnoch yn y cyfamser, mae pob croeso i chi gysylltu gyda’ch Swyddog Heddlu Cymunedol Ysgolion a ddylai fod yn gallu eich helpu.

KS4, KS5Matthew Morris