Dathlu Llwyddiant Cyn-ddisgybl / Celebrating Our Former Pupil’s Success

TegwenWEBjpg.imagegallerypreview.jpg

Hoffem estyn llongyfarchiadau gwresog i’n cyn-ddisgybl Tegwen Bruce-Deans am ddod yn 3ydd yng nghystadleuaeth Prifardd Eisteddfod T eleni. Dawn barddoni anhygoel sydd gan Tegwen, ac hynny wedi bod yn amlwg trwy gydol ei hamser gyda ni yma yn Ysgol Calon Cymru. Nid dyma ei llwyddiant Eisteddfodol cyntaf ac yn sicr ni fydd hyn ei llwyddiant olaf chwaith.

Da iawn wir Tegwen, rydym yn falch tu hwnt ohonot.

Gwyliwch y seremoni gadeirio yma (tua 29 munud i mewn): www.s4c.cymru/clic/programme/827622566 

Darllenwch ei cherdd yma:  

We would like to extend our huge congratulations to our fomer pupil, Tegwen Bruce-Deans for being placed 3rd in the Chairing competition of this year’s Eisteddfod T (Yr Urdd). Tegwen has a natural talent for poetry writing, and this talent was evident throughout her time with us at Ysgol Calon Cymru. This isn’t her first Eisteddfod success and it certainly will not be her last.

Huge well done to you Tegwen, we are extremely proud of you.

Watch the chairing ceremony here (about 29 minutes in): www.s4c.cymru/clic/programme/827622566

Read her poem below:


Trên Grefi

Ond ar y trên y bore hwnnw,

â sidan haul Sadwrn

yn siôl am fy ’sgwyddau,

roedd cri;

cwyn cyw bach yn erfyn o’i nyth

am dalp o fara gan ei fam.

Dw’ innau’n yfed gwin yr awyr

tra hithau,

yn ei hanobaith,

fel glöyn byw caeth

yn ehedeg draw ac acw –

ac roedd ymbil ei llygaid yn oer

fel ceiniog arian.

 

Dwi’n tynnu’r siôl yn dynn amdanaf

a’m bag agosach i ’mrest,

gan droi i’r ffenest i wylio

yn nhes ganol Mai

aur y bore’n arllwys

glesni i’r cysgodion.

 

Ond roedd oerni’r cysgod

yn mynnu glynu

fel stamp cerdyn post i’r awel.

 

A minnau’n rhyfeddu

eiliadau ar eu hôl:

paham ’mod i’n ofn

myn cyw a’i fam

            i fyw?

Costiera Amalfitana, 2018