Cynllun Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol / Coleg Cymraeg Cenedlaethol's Incentive Scholarship Scheme
Rydym yn falch o gyhoeddi i'n myfyrwyr Blwyddyn 13 fod Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi ymestyn eu cynllun Ysgoloriaethau Cymhelliant ar gyfer y myfyrwyr hynny sy'n cychwyn yn y Brifysgol ym mis Medi 2020. Mae'r cynllun yn agored i fyfyrwyr sy'n bwriadu astudio o leiaf 33% o'u cwrs gradd trwy cyfrwng y Gymraeg mewn UNRHYW PWNC. Cymerwch gip ar y wybodaeth hon gan Goleg Cymraeg Cenedlaethol i ddysgu mwy am y cynllun a sut i wneud cais. A chofiwch, mae’n well gwneud cais cyn gynted a phosib gan fod y cynllun hwn yn cael ei gynnig ar sail ‘y cyntaf i’r felin’.
Ymestyn Cynllun Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol – £1500 ar gael i’ch disgyblion chi
“Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn falch iawn o gyhoeddi ein bod yn ymestyn ein cynllun Ysgoloriaethau Cymhelliant ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd yn cychwyn yn y Brifysgol yn Medi 2020.
Ysgoloriaeth gwerth £500 y flwyddyn yw’r Ysgoloriaeth Cymhelliant.
Bydd yn cael ei gynnig i BOB myfyriwr sy’n ymrwymo i astudio 40 credyd yn y Gymraeg – ym mha bynnag bwnc y maent yn dymuno ei astudio, gan gynnwys y Gymraeg ac Addysg Gychwynnol Athrawon. Mae hyn yn wahanol i’r telerau ac amodau arferol lle roedd nifer penodol o ysgoloriaethau cymhelliant yn cael eu cynnig mewn pynciau penodol.
Mae’r cynllun newydd yn cael ei lansio heddiw (Dydd Llun 08 Mehefin 2020) gyda’r cyfle i fyfyrwyr ymgeisio drwy ffurflen gais yn uniongyrchol ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.”
We’re pleased to announce to our Year 13 students that Coleg Cymraeg Cenedlaethol have extended their Incentive Scholarships scheme for those students starting at University in September 2020. The scheme is open to students who intend to study at least 33% of their degree course through the medium of Welsh in ANY SUBJECT. Take a look at this information from Coleg Cymraeg Cenedlaethol to learn more about the scheme and how to apply. And remember, it’s best to apply as soon as you can, as this scheme is offered on a ‘first come, first served’ basis.
Extending Coleg Cymraeg Cenedlaethol's Incentive Scholarship Scheme – £ 1500 available to your pupils
“The Coleg Cymraeg Cenedlaethol is delighted to announce that we are extending our Incentive Scholarships scheme for those students starting at University in September 2020.
The Incentive Scholarship is a £ 500 a year scholarship.
It will be offered to ALL students who commit to studying 40 credits in Welsh – in whichever subject they wish to study, including Welsh and Initial Teacher Education. This is in contrast to the usual terms and conditions where a certain number of incentive scholarships were offered in specific subjects.
The new scheme is being launched today (Monday 08 June 2020) with the opportunity for students to apply through an application form directly on the Coleg Cymraeg Cenedlaethol website (application is in welsh only).”