Mae cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn unigryw i Gymru.
Mae'n helpu i baratoi myfyrwyr rhwng 14 a 19 oed ar gyfer y byd gwaith, ar gyfer astudio ymhellach ac ar gyfer bywyd. Caiff cymhwyster Bagloriaeth Cymru ei ddyfarnu i fyfyriwr drwy gyflawni cyfuniad penodedig o gymwysterau. Tystysgrif Her Sgiliau, sef cymhwyster arloesol sy'n seiliedig ar sgiliau, sydd wrth wraidd Bagloriaeth Cymru.
Mae'r Dystysgrif Her Sgiliau (THS) yn gymhwyster a fydd yn datblygu ac yn asesu eich sgiliau, eich priodoleddau a'ch ymddygiad. Mae'n cyd-fynd â'ch cymwysterau eraill, a byddwch yn gweld y bydd nifer o'r sgiliau rydych yn eu datblygu wrth astudio'r DHS yn cael eu defnyddio wrth i chi astudio eich pynciau eraill. Maent yn sgiliau trosglwyddadwy y dylech eu datblygu a'u defnyddio i ddangos y gallwch addasu i wahanol amgylchiadau a sefyllfaoedd, wrth weithio'n unigol neu mewn tîm. Maent yn sgiliau y bydd eu hangen arnoch pan fyddwch yn gadael yr ysgol i'w defnyddio yn y man gwaith, neu os byddwch yn mynd ymlaen i astudio yn y chweched dosbarth ac yna ymlaen i'r Brifysgol.
CA4 - TGAU
Mae'n cynnig cymhwyster o fath gwahanol, sy'n canolbwyntio ar feithrin amrywiaeth o sgiliau cyflogadwyedd hanfodol. Mae'n rhoi'r cyfle i ddysgwyr astudio pynciau a materion o'u dewis, sy'n berthnasol i'w cynlluniau ar gyfer astudio a dilyn gyrfa yn y dyfodol. Mae'n cynnwys pedair elfen:
Prosiect Unigol
Her Menter a Chyflogadwyedd
Her Dinasyddiaeth Fyd-eang
Her Gymunedol
Mae'r Dystysgrif yn canolbwyntio ar y sgiliau hanfodol a'r sgiliau cyflogadwyedd y bydd eu hangen ar bobl ifanc yn eu bywydau yn y dyfodol. Isod mae rhai delweddau i ddangos beth yw disgwyliad pob her...
CA5 - Lefel A
Yn CA5 (Lefel A) mae pob un o'r pedair cydran yn aros yr un peth, ond mae cynllun pob her yn wahanol yn unol â'r cam i fyny o TGAU i Lefel A. Isod ceir enghreifftiau o'r llwybr bydd y 6ed dosbarth yn dilyn yn ein hysgol.