Bl10 Daearyddiaeth - WC 22ain o Fehefin
Daearyddiaeth
Neges gan L Lewis…
Dyma i chi ran olaf 2.3 ar yr uned trefol-gwledig. Rydych chi newydd astudio Mumbai fel enghraifft o ddinas global mewn gwlad incwm isel. Rhaid i ni nawr edrych ar enghraifft o ddinas global mewn gwlad incwm uchel. Yr enghraifft y byddwn ni’n astudio yw Caerdydd. Rhaid I chi ddeall pam fod Caerdydd yn enghraifft o ddinas global a’r problemau / datrysiadau o fewn y ddinas hon.